Canolfan Gofal Dementia Bryn Seiont Newydd

Bydd ein Canolfan Gofal Dementia newydd, a fydd yn cynnwys 71 o welyau, yn rhoi cymorth i bobl ag amrywiaeth o anghenion yn ymwneud â dementia ac iechyd meddwl.

Mae 8 'tŷ' unigol gyda staff ymroddedig, ac awyrgylch gartrefol a theuluol ar gyfer anghenion arbennig, yn amrywio yn oˆl rhyw ac oed fel sy'n briodol.

Mae lolfa ar gyfer gwahanol ddewisiadau ym mhob un (hamdden, preifatrwydd, cynnwrf a byw cymunedol), ac mae siop goffi ganolog, ac ystafell i ymarfer a gwella ffitrwydd a lles.

Mae'r gymuned yn un therapiwtig, gydag amrywiaeth eang o weithgareddau a therapïau i wella ansawdd bywyd bob dydd, ac i gynorthwyo pobl i fod mor annibynnol ag y gallant ac i gyflawni eu nodau.

Mae'r lleoliad 5 erw yn dangnefeddus, ac mae wedi ei amgylchynu gan goed, gerddi a chefn gwlad. Mae'r gerddi canolog yn ddiogel ac wedi eu hamgylchynu gan wal, ac mae lleoliad uchel y ganolfan yn cynnig golygfeydd hyfryd o'r Castell. Mae'n heddychlon ac yn wledig, ond eto mae amwynderau gerllaw.

Mae ein staff cyfeillgar ac amyneddgar wedi eu hyfforddi i'r safon uchaf, ac wedi cymhwyso mewn amrywiaeth eang o feysydd iechyd meddwl.

Mae fflatiau 'Companion Care Living' Parc Pendine wedi eu cynllunio ar gyfer Haf 2017 er mwyn i gyplau allu aros gyda'i gilydd neu i gael aduniad os bydd un ohonynt mewn cartref gofal

Rydyn ni nawr yn derbyn archebion ar gyfer Bryn Seiont Newydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Sandra Evans, y Rheolwr, ar
01286 476676 / 07739 633612.